Y Pwyllgor Cyllid
Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor
Mae’r Pwyllgor Cyllid yn bwyllgor trawsbleidiol yn y Cynulliad Cenedlaethol sy’n cynnwys Aelodau o bob un o’r pedair plaid wleidyddol sy’n cael eu cynrychioli yn y Cynulliad.
Nid yw’r Pwyllgor yn rhan o Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, cylch gwaith y Pwyllgor yw:
· ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen arall a osodir gerbron y Cynulliad gan Weinidogion Cymru neu’r Comisiwn sy’n cynnwys cynigion ar gyfer defnyddio adnoddau, a chyflwyno adroddiad arnynt.
· ystyried unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â gwariant o Gronfa Gyfunol Cymru neu sy’n effeithio ar y gwariant hwnnw, a chyflwyno adroddiad arnynt.
Mae’r cylchlythyr hwn yn targedu unigolion a sefydliadau allai fod â diddordeb mewn dysgu am waith a chanlyniadau’r Pwyllgor, ynghyd â’i ddulliau o weithio. Y bwriad yw hyrwyddo mynediad i weithgareddau’r Pwyllgor ac i ehangu eich ymgysylltiad â’r gweithgareddau hynny drwy ei gwneud yn haws i chi rannu gwybodaeth ac arbenigedd gyda swyddogion ac Aelodau. Cafodd y ddogfen hon ei pharatoi gan y tîm clercio sy’n cefnogi gwaith y Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Tom Jackson |
Clerc |
02920 89 8597 |
|
Dan Collier |
Dirprwy Glerc |
02920 898020 |
|
Linda Heard |
Tîm Cymorth y Pwyllgor |
02920 89 8149 |
|
Gwefan: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgCommitteeDetails.aspx?ID=229
Y newyddion diweddaraf – haf 2011
Craffu ar gynnig y Gyllideb Atodol 2011 -12 (Haf 2011)
Ar 11 Gorffennaf 2011, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar y gwaith craffu ar gynnig Llywodraeth Cymru ynghylch cyllideb atodol 2011-12 (Haf 2011). Trafodwyd yr adroddiad a chynnig Llywodraeth Cymru ynghylch y gyllideb atodol mewn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf 2011.
Gellir gweld yr adroddiad hwn ar wefan y Pwyllgor yn:
http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=1366
Gellir gwylio trafodion y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2011 ar Senedd TV:
Os oes angen copi caled o’r adroddiad arnoch, anfonwch e-bost at: linda.heard@cymru.gov.uk
Gweithgarwch y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref 2011:
Er gwybodaeth, gallai’r manylion ynghylch dyddiadau a thestunau ymchwil newid o ganlyniad i flaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg.
Cyllideb 2012-2013 – Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu gosod ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2012-13 gerbron y Cynulliad ar 4 Hydref 2011. Mae’n ofynnol ar y Pwyllgor Cyllid i gyflwyno adroddiad ar y gyllideb ddrafft erbyn 8 Tachwedd 2011.
Bydd y flwyddyn i ddod yn gosod heriau penodol i bawb yn y sector cyhoeddus. Bydd angen i awdurdodau a chyrff cyhoeddus eraill reoli sut y darperir gwasanaethau i gael y canlyniadau gorau posibl gan ddefnyddio’r adnoddau cyfyngedig fydd ar gael.
Er mwyn cydnabod hyn, wrth graffu ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth, mae’r Pwyllgor Cyllid yn bwriadu canolbwyntio ar flaenoriaethau’r Llywodraeth a’r canlyniadau a gaiff eu cyflawni. Mae’r Pwyllgor wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi nodi, pan gaiff y gyllideb ei gosod gerbron y Cynulliad, sut y bydd yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu dosbarthu mewn ffordd sy’n sicrhau y byddant yn cael yr effaith fwyaf bosibl o ran gwireddu amcanion strategol y Llywodraeth, yn ogystal â sut y bydd y canlyniadau’n cael eu hasesu.
Beth hoffech chi ei weld yn y gyllideb?
Roedd cyllideb atodol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cynnwys dyraniadau dangosol ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-2013. Mae’r gyllideb atodol ar gael yma: http://wales.gov.uk/about/budget/supbudgetjune2011/?skip=1&lang=cy
Mae’r Pwyllgor wedi gwahodd rhanddeiliaid sydd â diddordeb i nodi unrhyw bryderon sydd ganddynt ynghylch dyraniadau dangosol Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2012-2013, eu disgwyliadau o ran y gyllideb honno, ac a oes unrhyw faterion yr hoffent weld y Pwyllgor yn eu hystyried cyn craffu ar y gyllideb ddrafft. Gellir gweld y galwad am wybodaeth yma: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgCommitteeDetails.aspx?ID=229
Craffu ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad
Rhaid i aelod o Gomisiwn y Cynulliad osod cyllideb ddrafft gerbron y Cynulliad erbyn 1 Hydref, fan bellaf, ym mhob blwyddyn ariannol. O dan ei Reolau Sefydlog,rhaid i’r Pwyllgor Cyllid gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar gyllideb ddrafft y Comisiwn, a hynn y heb fod yn hwyrach na thair wythnos ar ôl i’r gyllideb gael ei gosod gerbron y Cynulliad.
Craffu ar waith yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Bydd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn cyflwyno amcangyfrif o incwm a chostau i’r Pwyllgor Cyllid erbyn 1 Tachwedd, fan bellaf, ym mhob blwyddyn ariannol.
Bydd gofyn i’r Pwyllgor Cyllid ystyried yr amcangyfrif hwn a’i osod gerbron y Cynulliad erbyn 22 Tachwedd, fan bellaf, gan gynnwys unrhyw addasiadau y mae’r Pwyllgor yn eu hystyried yn briodol, ar ôl iddo ymgynghori â’r Ombwdsmon a rhoi ystyriaeth i’w sylwadau.
Trefniadau ariannu datganoledig i Gymru
Gall y Pwyllgor Cyllid ystyried unrhyw fater sy’n ymwneud â gwariant o Gronfa Gyfunol Cymru neu sy’n effeithio ar y gwariant hwnnw.
Nododd y Pwyllgor gyda diddordeb y cyhoeddiad a wnaed yn ddiweddar gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sef y bydd comisiwn ar sut yr ariennir Llywodraeth Cymru yn cael eu sefydlu yn yr hydref ac yn cyflwyno adroddiad y flwyddyn nesaf.
Nid yw’r Pwyllgor Cyllid am ddyblygu gwaith y comisiwn hwn, ond bydd yn ceisio cyfrannu tystiolaeth ac ychwanegu gwerth at waith y comisiwn, lle bo hynny’n briodol.
Defnyddio Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn effeithiol
Yn ei adroddiad etifeddiaeth, awgrymodd Pwyllgor Cyllid y Trydydd Cynulliad yr hoffai Pwyllgor Cyllid yn y dyfodol efallai ystyried cynnal ymchwiliad i sut y defnyddir yr arian a gaiff Cymru o Ewrop o dan y rhaglenni cronfeydd strwythurol amrywiol.[1] Rydym yn bwriadu ystyried y posibilrwydd o gynnal ymchwiliad i’r mater hwn yn nhymor yr hydref.
Sut rydym yn cynllunio ein hymchwiliadau
Gall awgrymiadau ar gyfer testunau ymchwiliad ddod o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys:
· syniadau gan Aelodau, yn seiliedig ar eu profiadau a’u diddordebau gwleidyddol a phersonol;
· awgrymiadau gan randdeiliaid, drwy gysylltu â’r Pwyllgor cyfan neu ag Aelodau unigol;
· materion sy’n codi’n naturiol wrth i drafodion cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru fynd rhagddynt (fel deisebau);
· dadansoddiad o’r materion sy’n peri pryder sy’n dod i’r amlwg o fewn cylch gwaith y Pwyllgor;
· gwaith sy’n cael ei wneud gan y Pwyllgor neu waith a wnaed gan bwyllgorau blaenorol.
Yn benodol, gall y Pwyllgor benderfynu ei fod am ailgydio yn ei waith ar ambell i ymchwiliad, ar ôl i gyfnod priodol o amser fynd heibio, er mwyn penderfynu a yw Llywodraeth Cymru yn gweithredu argymhellion y Pwyllgor a dderbyniwyd ganddi. Yn yr achosion hynny, bydd y Pwyllgor fel arfer yn cynnal ymchwiliad dilynol byr.
Yn y pen draw, mae pob ymchwiliad yn deillio o syniadau, dyheadau, arbenigedd a gwybodaeth Aelodau’r Cynulliad.
Ar gyfartaledd, bydd Aelodau a swyddogion yn trafod y manylion ynghylch cynllunio ymchwiliadau tua unwaith pob tymor, fel bod gan y Pwyllgor raglen waith dreigl sy’n hyblyg. Pob blwyddyn, bydd rhaglen waith y Pwyllgor Cyllid hefyd yn cynnwys eitemau sefydlog o ran ei waith craffu, fel cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, cyllidebau atodol Llywodraeth Cymru a chyllideb Comisiwn y Cynulliad.
Ac yn olaf…
Adborth, os gwelwch yn dda!
Hoffwn gael cymaint o adborth ag sy’n bosibl ynghylch y cwestiynau a ganlyn: a yw’r ddogfen hon yn ddefnyddiol i chi, a yw ei chynnwys yn berthnasol ac yn briodol, ac a hoffech i ni gynnwys rhywbeth y tro nesaf na chafodd ei gynnwys y tro hwn? Anfonwch e-bost at: linda.heard@cymru.gov.uk
Mae croeso hefyd i chi anfon y ddogfen hon, yn ogystal â’n manylion cyswllt, at unrhyw un y credwch a fyddai am gael gwybodaeth am waith a dulliau gweithredu’r Pwyllgor Cyllid.
Y cylchlythyr nesaf
Rydym yn bwriadu cyhoeddi un cylchlythyr pob tymor ac anfon negeseuon e-bost atoch yn amlach os bydd y Pwyllgor yn penderfynu ymgymryd â gwaith craffu brys neu’n penderfynu newid ei flaenoriaethau mewn ffordd sylweddol.